Rhagfyr 2021

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Rhagfyr 2021

Un Gair Caredig  

Roedd hi’n Wythnos Gwrth-Fwlio rhwng y 15fed a’r 19eg o Dachwedd.  Trefnir yr wythnos yn flynyddol gan y Gynghrair Gwrth-fwlio, a phrif neges ymgyrch eleni oedd ‘Un Gair Caredig’.  Penderfynodd Grŵp Gwrth Fwlio’r Ysgol gefnogi’r wythnos drwy greu ffilm fer yn trafod effaith bwlio, tra’n amlygu pwysigrwydd yr ‘un gair caredig’ yna y gallan ni ei ddweud wrth ein gilydd.  Dywedodd aelod o’r Grŵp,

“ Mae’r neges yn syml, ond pwysig.  Fe wnaeth creu’r ffilm efo disgyblion Blwyddyn 9 roi cyfle i ni feddwl am effaith gadarnhaol y pethau caredig, syml y gallan ni eu gwneud.”    

Er mai ymgyrch wythnos ydy’r Wythnos Gwrth Fwlio, mae’r Grŵp Gwrth-Fwlio gweithgar yn awyddus i ddal ati i bwysleisio’r neges syml ond pwerus am y gwahaniaeth y gall ‘Un Gair Caredig’ ei wneud i eraill. 

Ymweliad Heddlu. 

Braf oedd cael croesawu ein Swyddog Cyswllt Ysgolion newydd PC Rhiannon Wright i’r ysgol yn ddiweddar. Bu’n cyflwyno gwybodaeth a chyngor i flwyddyn 7 am ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Edrychwn ymlaen I’w gweld yn fuan gyda disgyblion eraill. 

Ymweliad Plas Glyn y Weddw. 

Aeth criw o Flwyddyn 11 sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Agored Cymru ar ymweliad á Phlas Glyn y Weddw er mwyn cael cyfle i werthfawrogi gwaith artistiaid lleol ac artistiaid o Gymru.

Bu’n bnawn difyr mewn lleoliad bendigedig a mwynhawyd paned a chacennau blasus cyn dychwelyd nôl i’r ysgol.  Diolch yn fawr am y croeso

grwp o ddisgyblion o flaen coeden nadolig
Hari Annwyl Roberts yn gwisgo crys Cymru fel rhan o aelod o dîm pêl droed dan 15.

Llwyddiant ym myd chwaraeon

Hari Annwyl Roberts yn gwisgo crys Cymru fel rhan o aelod o dîm pêl droed dan 15.

Llongyfarchiadau i Nansi Roberts ar ei dewis i garfan hoci Gogledd Cymru.

Da iawn chdi Nansi.

Fel ysgol hoffem longyfarch Gareth Thirsk ar enedigaeth Martha a Guto Wyn ar enedigaeth Esyllt.

Pob dymuniad da i chi fel teuluoedd.

A hithau ar drothwy'r Nadolig mae hen edrych ymlaen at ginio Nadolig yr ysgol fydd yn digwydd ganol y mis.

Rydym fel staff a disgyblion yr ysgol yn dymuno Nadolig Llawen i chi gyd.


Newyddion Diweddaraf