Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Newyddion Ysgol Mehefin
Gwobr Dug Caeredin - bu criw o ddisgyblion Blwyddyn 11 sydd yn cwblhau cymhwyster mewn Dysgu Awyr Agored ar alldaith ddiweddar. Bu’r disgyblion yn cerdded a gwersylla yn ardal Aberdaron yn dilyn cyfnod o hyfforddi yn yr ysgol. Maent wedi ennill Gwobr Efydd Dug Caeredin yn dilyn y weithgaredd hon. Diolch i Andrew Owen o’r Gwasanaeth Ieuenctid a staff Yr Urdd am eu cefnogaeth a’u harweiniad yn ystod y paratoi a’r daith. Mi fydd criwiau Blwyddyn 10 yn gwersylla fis Mehefin a chewch yr hanes yn y rhifyn nesaf.;
Gweithdy Prosiect Ffilm – Eisteddfod Genedlaethol
Mae 15 o ddisgyblion yr ysgol ynghyd â disgyblion ysgolion cynradd y dalgylch yn cymryd rhan mewn Prosiect Ffilm ac Animeiddio o dan arweiniad Robin Williams a Dafydd Roberts. Bydd y gwaith gorffenedig yn cael llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol . Byddwn yn falch iawn o’ch croesawu i’n pabell ar y maes er mwyn i chi gael gweld y gwaith i gyd. Cofiwch alw. .
SIOE CERDD DYMA NI
Llongyfarchiadau i 6 disgybl o’r ysgol a oedd yn aelodau o gast y sioe gerdd Dyma Ni o dan ofal Gwasanaeth Cerdd Gwynedd Môn. Llwyfannwyd y sioe gerdd yn y Galeri ddiwedd mis Ebrill a dechrau Mai. Roedd y sioe yn wefreiddiol a phawb wedi gwneud eu rhannau yn wych. Da iawn chi a phob aelod o’r arall o’r cast a’r tîm cynhyrchu.
EISTEDDFOD YR URDD
Dymuniadau gorau i Lea Roberts, parti cerdd dant a pharti merched blwyddyn 7/8/9 a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yn ystod gwyliau hanner tymor.
CELF A CHREFFT YR URDD
Llongyfarchiadau i Meilyg Rhisiart ar ddod yn ail yn Eisteddfod yr Urdd am greu comic.
Llongyfarchiadau hefyd i Dewi Griffith a ddaeth yn ail yn yr un gystadleuaeth yn Eisteddfod Sir yr Urdd.
Da iawn chi bois.
LLWYDDIANT CHWARAEON
ATHLETAU
Llongyfarchiadau i Lily Hardy ar ei llwyddiant yn athletau Eryri. Bydd yn mynd ymlaen i gynrychioli ysgolion Eryri ar lefel Cymru yn y 300meter a’r naid hir.
HOCI
Llongyfarchiadau i Effi Jones, Mela Jones a Cara Studt ar gael eu dewis i fod yn aelodau o garfan hoci Gogledd Cymru. Dewiswyd Effi i fod yn gapten.
CRICED
Llongyfarchiadau i Harri Adams ar gael ei ddewis i chwarae gyda thîm Criced Gogledd Cymru. Bu yn chwarae yn erbyn Coleg Ellesmere. Da iawn chdi.
Pêl-droed
Llongyfarchiadau i Lois Love , Efa Grug Williams a Heidi Condliffe sy’n beldroedwyr medrus iawn. Ennill Cwpan y Vauxhall Premier Cup i enethod o dan 14eg mewn twrnament yn Ellesmere Port oedd eu hanes . Maen nhw’n chwarae i dîm pêl droed merched Porthmadog Da iawn chi genod ar eich llwyddiant.