Newyddion Ysgol Mai

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Newyddion Ysgol Mai

LLWYDDIANT PEL DROED

Llongyfarchiadau i Hari Annwyl Roberts ar ei lwyddiannau diweddar.

Bu Harri yn chwarae i dîm pêl droed ysgolion Cymru yn erbyn tim Aston Villa yn Villa Park ganol mis Ebrill, gêm oedd hon i baratoi ar gyfer chwarae yn erbyn Lloegr mis yma. Mae bellach wedi ei ddewis i gynrychioli Cymru ddechrau mis Mai. I goroni'r llwyddiannau  yma, mae Hari wedi derbyn newyddion gwych ei fod wedi  derbyn ysgoloriaeth gan dîm pêl droed Wrecsam. Bydd yn cychwyn ar y Cae Ras ym mis Awst a hynny ar ddechrau cyfnod newydd a llewyrchus yn hanes y clwb. Llongyfarchiadau gwresog a phob lwc i’r dyfodol. Mae’r ysgol yn falch iawn ohonot  a byddwn yn dilyn dy yrfa.

  • Hari Anwyl Roberts

PÊL-FASGED

Efallai i chi weld dau o ddisgyblion yr ysgol yn siarad yn wych ar newyddion S4C dros y Pasg. Mae Steffan Williams a Jac Crockett yn aelodau o dîm pêl-fasged cadeiriau olwyn Cymru. Dyma chi grynodeb o’r drafodaeth ar y teledu yng ngeiriau Steffan.

“Helo fy enw i ydi Steffan a dw i’n cynrychioli Cymru yn y gamp pêl fasged cadair olwyn. Dechreuais chwarae yn 2016 i dîm Caernarfon pan oeddwn yn 6 oed. Roeddwn wrth fy modd a wnes ddim edrych yn ôl. I fod yn chwaraewr da mae angen cadair olwyn o safon uchel sydd yn golygu ei bod yn ddrud. Y cadeiriau sydd yn cael ei ddefnyddio ydi PER4MAX ond maent yn costio £6,400. Gwnaeth Deborah rheolwr y tîm ar y cychwyn chwilio am grantiau ond ni chafwyd llawer o lwyddiant. Rydym felly wedi mynd ati i godi'r arian gan dderbyn digon o bres gan bobl garedig iawn i allu archebu'r cadeiriau. Cyrhaeddodd y cadeiriau ar 14eg o Chwefror eleni. Rydym wrth ein boddau yn cael chwarae ac ymarfer ynddyn hw”

Pob lwc i chi hogiau a gobeithio fod y cadeiriau newydd yn help i chi wella eich gêm. Rydym yn hynod o falch o lwyddiant y ddau ohonoch yn cael chwarae i safon mor uchel a chynrychioli eich gwlad. Mae hynny’n glod i chi ac i’r gefnogaeth rydych chi’n ei chael.

RHEDEG

Pob lwc i Mr Dyfed Pritchard, un o staff yr ysgol sydd yn cymryd rhan yn her Pilgrims 60 ar y 6ed o Fai. Ras redeg o Fangor i Aberdaron ydy hon ac mae’n codi arian i’r elusen Battens Disease Family Association. Mae hwn yn afiechyd creulon iawn sydd yn effeithio' ymennydd plant ifanc. Bydd Dyfed yn rhedeg ar ran Anna Roberts a’i theulu sydd yn byw gyda'r cyflwr.

DEWISIADAU

Mae disgyblion Blwyddyn 9 wedi bod wrthi’n ystyried pa bynciau yr hoffent eu hastudio ar gyfer cymwysterau TGAU. Diolch i Mrs Nia Parry o Gyrfa Cymru sydd wedi bod yn cynnal sesiynau buddiol iawn yn eu cynghori a diolch hefyd i Mrs Jacqui Parry am sicrhau bod yna raglen ar waith gynhwysfawr yn arwain y disgyblion drwy’r broses. Cafodd holl ddisgyblion Blwyddyn 9 gyfle i drafod gyda’u cyfoedion o Flwyddyn 10 er mwyn cael blas ar yr hyn sy’n cael ei gynnig. Bu hyn yn brofiad gwerthfawr iawn a disgyblion Blwyddyn 10 yn cynghori’n ddoeth.

  • Plant ysgol yn neuadd

NELI’R ELIFFANT

Mi wnaethom sôn am Neli’r Eliffant yn y rhifyn diwethaf ond mae’n amlwg ei bod wedi mynd ar grwydr eto gan na chawsoch weld llun ohoni. Dyma hi Neli felly!

  • tegan eliffant

Faint ohonoch chi ddarllenwyr y Llanw, yn gyn-ddisgyblion, athrawon a rhieni sydd yn ei chofio? Rydym yn gwybod ei bod yma ym 1982 gan fod un o staff presennol yr ysgol yn cofio ei chario ar daith rygbi a Neli’n cadw llygad ar y tîm oedd yn teithio ar y bws. Tybed lle arall mae hi wedi bod? Tybed oes gennych stori i’w rhannu efo ni am ei hynt pan oeddech chi yn yr ysgol? Ein gobaith yw medru casglu cymaint o atgofion â phosib ynghyd er mwyn eu rhannu efo chi mewn rhifynnau o’r Llanw ac yn ein pabell ar faes yr Eisteddfod lle bydd Neli yn westai anrhydeddus.


Newyddion Diweddaraf