Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Newyddion Ysgol Gorffennaf
Dathlu'r Eisteddfod
Yn yr wythnos gyntaf yn ôl wedi'r gwyliau, cynhaliodd y Pwyllgor Cymreictod weithgareddau yn ystod amseroedd cinio er mwyn dathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Lŷn ac Eifionydd. Cafwyd gweithgareddau gwahanol yn ystod yr wythnos yn cynnwys gweithgareddau codi arian, gweithgaredd 'Ein Llŷn ac Eifionydd Ni' a ffotobwth. Tra'r oedd Myrddin ap Dafydd yr ysgol ddydd Iau, daeth draw i weld gweithgareddau'r disgyblion. Diolch i aelodau'r pwyllgor am yr holl waith caled yn ystod yr wythnos brysur!
Y disgyblion yn cynnal gweithgareddau casglu arian ar gyfer cronfa leol yr Eisteddfod Genedlaethol
Prosiect Ffilm Llŷn ac Eifionydd
Mae'r criw ffilm blwyddyn 9 wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi ffilm ar y cyd gyda Chwmni Ffilm Seiont. Maent wedi cael y cyfle i gyfweld sawl person o'r ardal gan gynnwys Maer y Dref, Keith Parry i sôn am y Warchodfa Natur, John Dilwyn Williams i sôn am hanes y dref, Myrddin ap Dafydd i sôn am gysylltiadau'r Eisteddfod a Phwllheli a Paul Jenkison i sôn am ei brofiadau fel ffotograffydd byd natur. Yn ogystal â hyn, fe wnaeth rhai aelodau o'r criw ymweld â Neuadd Dwyfor er mwyn cyfweld y staff, Dyfed Pritchard a Ceridwen Price er mwyn sôn am adloniant yn nhref Pwllheli. Edrychwn ymlaen at gael gweld y ffilm orffenedig yn fuan.
PONTIO CYNRADD UWCHRADD
Braf oedd cael croesawu disgyblion o ysgolion cynradd y dalgylch atom am fore i weld y gwaith animeiddio sydd wedi cael ei wneud yn ystod y tymor. Bu cydweithio rhwng ein disgyblion blwyddyn 9 ni a disgyblion yr ysgolion cynradd . Byddwch yn cael gweld y gwaith gorffenedig ym mhabell yr ysgol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ar ôl cinio cafodd y disgyblion ynghyd â disgyblion blwyddyn 7 yr ysgol gyfle i fwynhau sioe Tudur Phillips “Dod yn fuan i Foduan”. Cafwyd prynhawn hwyliog a chyfle i ddysgu am yr hyn fydd i’w fwynhau ar y maes.
LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Chayika Jones sydd wedi cael ei derbyn i fynychu ysgol haf breswyl Prifysgol Rhydychen fel rhan o gynllun SEREN y Llywodraeth. Roedd yna gystadleuaeth frwd i ennill y cyfle hwn . Da iawn chdi Chayika a phob hwyl yn Rhydychen.
Llongyfarchiadau yr un mor wresog i Lea Roberts ar sicrhau lle yn Ysgol Haf yn y “Royal Conservatoire of Scotland” i ymarfer ei sgiliau cerddorol. Pob hwyl i chdi a mwynha’r profiad gwerthfawr hwn.
Llongyfarch i Erin Gwen, Lily Hardy, Chloe a Cara 9A am eu llwyddiant yng nghystadleuaeth cyfieithu o’r Ffrangeg i’r Gymraeg o dan nawdd Prifysgol Rhydychen.
Daeth cyfieithiad Erin a Lily i’r brig yn eu rhanbarth a’r dasg oedd cyfieithu cerdd o'r Ffrangeg i'r Gymraeg. Bydd eu gwaith yn mynd ymlaen i gystadleuaeth ar lefel Prydeinig. Cafodd gwaith Chloe a Cara ei gymeradwyo gan y beirniaid am safon ardderchog eu cyfieithiad nhw o'r gerdd. Gyda dros 15,000 o ddysgwyr wedi ymgeisio ar draws y categorïau eleni, mae hyn yn dipyn o gamp.
PROSIECT YR ADRAN SAESNEG
Fel rhan o'u gwaith ar y thema 'Ein Planed', bu Blwyddyn 7 a'r Adran Saesneg yn gweithio ar y traeth ym Mhwllheli. Cafwyd cyfle i lanhau'r traeth a chasglwyd llond tri bag mawr o 'sbwriel. Roedd pawb yn ymfalchïo o weld y lle yn edrych llawer taclusach ac roedd y prynhawn yn gyfle i bawb gofio am ein cyfrifoldeb i’n bro a’n hamgylchedd. Da iawn am eich ymdrechion Blwyddyn 7!
MABOLGAMPAU
Cynhaliwyd mabolgampau’r ysgol ar ddiwrnod crasboeth a chafwyd diwrnod gwych o gystadlu brwd. Diolch i Mr Thirsk, Mrs Roberts a holl staff yr Adran Addysg Gorfforol am eu paratoadau
Dyma’r canlyniadau:
Canlyniadau timau merched:
Genethod Tudwal yn 1af, Gwylan 2il, Enlli 3ydd
Canlyniadau timau bechgyn:
Bechgyn Gwylan yn 1af, Enlli 2il, Tudwal 3ydd
Y CANLYNIADAU TERFYNOL:
1af- GWYLAN - 859 o bwyntiau
2il - TUDWAL - 823 o bwyntiau
3ydd - ENLLI - 722 o bwyntiau
Daeth GWYLAN yn fuddugol! Llongyfarchiadau mawr i bawb.
Gwobrau Unigol:
Gwobr Victor Ludorum i'r athletwr sydd wedi ennill y fwyaf o bwyntiau ar y diwrnod:
Blwyddyn 7- Meinir Dyfed (Gwylan) a George Clavin (Gwylan)
Blwyddyn 8 – Effi Jones (Enlli) a Monti Ellis (Tudwal)
Blwyddyn 9 – Lily Hardy (Gwylan) a Enes Yilmaz (Gwylan)
Blwyddyn 10 – Elin Rhisiart (Gwylan) a Charlie Griffith (Enlli)
Gwobr Ymdrech:
Blwyddyn 7 – Mia Thomas a Lexi Evans (Tudwal), Elis Jones a Harri Hughes (Gwylan)
Blwyddyn 8 -Kimberley Jones (Enlli), Ela Jones (Tudwal), Eban Jones (Enlli) ac Ollie Armitt (Gwylan)
Blwyddyn 9 – Nansi Jones a Alys Atkin (Tudwal), Kai Worsley-Jones (Enlli)
Blwyddyn 10 – Elliw Evans (Enlli), Beca Brew (Gwylan), Harri Studt (Gwylan) a Tomos Jones (Tudwal)
Recordiau Newydd:
Cafodd 4 record eu torri ar y diwrnod.
Bechgyn Blwyddyn 9- Enes Yilmaz (Gwylan) yn y 100m gydag amser o 12:30
Bechgyn Blwyddyn 10-Charlie Griffith (Enlli) yn y Naid Hir gyda naid o 5m 67 ac yn y Naid Uchel gyda naid 1m 67.
Genethod blwyddyn 7 Gwylan yn y ras gyfnewid i 4 aelod dros 100 medr. Aelodau y tim oedd Meinir Dyfed ,Leila Ellis, Lili Jones a Shan Jones. Da iawn chi.
Athletau:
Canlyniadau cystadleuaeth tîm Athletau NASUWT Meirion-Dwyfor 21/6/23:
Genethod Blwyddyn 7- 6ed
Bechgyn Blwyddyn 7- 6ed
Genethod Blwyddyn 8 - 3ydd
Bechgyn Blwyddyn 8 - 1af
Genethod Blwyddyn 9 a 10 - 3ydd
Bechgyn Blwyddyn 9 a 10 - 3ydd
Tîm Bechgyn Blwyddyn 8 wedi mynd drwodd i rownd Eryri.
Cystadleuaeth tîm Athletau NASUWT Eryri 29/6/23:
Llongyfarchiadau i Dim Bechgyn Blwyddyn 8 sydd wedi ennill cystadleuaeth NASUWT Eryri gyda chyfanswm o 74 o bwyntiau. Roedd yna nifer o berfformiadau arbennig ar y diwrnod gyda Anthony Evans yn fuddugol yn y Pwysau, Cian Read yn y 200m a Monti Ellis yn y 300m.
Mae'r bechgyn rwan yn yn symud ymlaen i'r gystadleuaeth genedlaethol yn Aberdar ar Orffennaf 12fed. Pob hwyl i chi fechgyn, rydym yn falch iawn o’ch llwyddiant.
Pêl-fasged
Mae Bechgyn Blwyddyn 8 wedi gorffen yn 7fed drwy Gymru yn nghystadleuaeth Pêl-fasged NBA yn Aberystwyth. Llwyddodd y bechgyn i guro Ysgol Ystalyfera ar ôl colli i Ysgol Alun a Penglais ar y diwrnod.
CYSTADLEUAETH FATHEMATEGOL
Eleni, bu 68 o ddisgyblion Blwyddyn 8 yn cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Fathemategol a gynhaliwyd gan “Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol”. Derbyniodd tri disgybl dystysgrif felen am waith o safon uchel iawn, sef Leusa Sheret a Katie Jenkinson ac Olivia Krakowska. Derbyniodd y disgyblion eraill dystysgrif werdd am waith safonol.
DATHLIAD
Cawsom ddathliad arbennig iawn i ffarwelio gyda disgyblion Blwyddyn 11 ddydd Iau, Mehefin 22ain. Daeth y disgyblion i’r ysgol gyda’r rhieni yn y prynhawn a chawsom seremoni arbennig iawn yng nghwmni dau o’n cyn ddisgyblion Alun Jones-Williams a Twm Ellis sy’n aelodau prysur o Bwncath. Roedd y neges i’r disgyblion ganddynt yn hynod amserol a gwerthfawr.
Yn dilyn prynhawn bendigedig yn yr ysgol, cafwyd noson wych yn Nant Gwrtheyrn yng nghwmni DJ Bustach. Diolch i holl staff y Nant am y trefniadau a’r bwyd bendigedig a diolch i bawb fu ynghlwm â’r dathliad am sicrhau bod ein disgyblion yn cael dathlu llwyddiannau a chael cyfle i ffarwelio â’r ysgol. Edrychwn ymlaen i ‘ch gweld fis Awst ac i ddilyn eich anturiaethau nesaf. Diolch am fod yn griw gwych a phob lwc i bob un ohonoch chi.