Newyddion Ysgol Ebrill

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Newyddion Ysgol Ebrill

Dyma i chi ychydig o hanes y disgyblion yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ar Fawrth y 1af, sef dydd ein nawddsant Dewi, penderfynodd y Pwyllgor Cymreictod gynnal Ffotobŵth Gŵyl Ddewi yn ystod yr amser cinio.  Cafodd y disgyblion hwyl garw yn tynnu'r lluniau gyda'r eitemau gwahanol oedd wedi cael eu casglu ar gyfer y weithgaredd.  Diolch yn fawr iawn i bawb fu'n help gyda'r paratoi.

  • disgyblion o flaen fflag cymru

Dathlu Diwrnod y Llyfr

Dathlu Diwrnod y Llyfr Er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr eleni cynhaliwyd Ffair Lyfrau i flynyddoedd 7, 8 a 9 ar y cyd gyda siop Llên Llyn. Cafodd y disgyblion gyfle i bori drwy amrywiaeth o lyfrau a chael blas ar y cyfoeth o lenyddiaeth Gymraeg sydd ar gael. Trwy gynllun Caru Darllen y Cyngor Llyfrau bydd pob disgybl yn cael archebu llyfr o’u dewis o’r Ffair i’w fwynhau. Diolch yn arbennig i Hari Davies, Guto Davies, Cai Edwards, Llyr Williams, Elin Rhisiart, Lea Roberts ac Erin Owen o flwyddyn 10 am gynorthwyo gyda’r Ffair gan rannu eu profiadau a’u hoff nofelau Cymraeg gyda’r blynyddoedd iau.

  • plant gyda llyfrau

EISTEDDFOD YR URDD

Bu’r disgyblion yn brysur iawn yn cystadlu yn eisteddfod sir yr Urdd yn ystod y mis. Llongyfarchiadau i bawb ar berfformiadau gwych a diolch i bawb fu’n hyfforddi ac yn cefnogi. Pob hwyl i’r rhai fydd yn cynrychioli Eryri yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanymddyfri fis Mai.

Dyma ganlyniadau disgyblion yr ysgol:

Nel Huws - 2il Perfformiad Theatrig blwyddyn 7/8/9 a  3ydd - Alaw Werin blwyddyn 7/8/9

Lea Roberts - 1af - llefaru ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 a dan 19; 2il Unawd chwythbrennau blwyddyn 10 a  dan 19 a 3ydd unawd piano blwyddyn 10 a dan 19.

Liam Arfon Jones – 2il Unawd T/B i flwyddyn 10 a dan 19.

Lili Lloyd-Jones a Mali Wynne Owen – 2il - Deuawd blwyddyn 7/8/9 

Côr Blwyddyn 7/8/9 – 2il

Parti Merched  7/8/9  - 1af

Parti Cerdd Dant Blwyddyn 7/8/9 – 1af

  • 4 myfyrwr o flaen ysgol
  • Parti Cerdd Dant 7/8/9
  • Côr Blwyddyn 7/8/9
  • cor

DIWRNOD Y TRWYNAU COCH.

Ddydd Gwener Mawrth 17eg daeth y disgyblion i’r ysgol yn eu gwisg eu hunain a chyfrannu arian tuag at  ymgyrch blynyddol “Comic Relief”. Cynhaliwyd cystadleuaeth jôcs

Llongyfarchiadau i Ella Jenkinson Jones, Mason Roberts  a Dion Dobson am ddod i’r brig.

Diolch hefyd i’r beirniaid Mr Huw Meilir Williams.

 

CYSTADLEUAETH MATHEMATEG

Bu Ostan, Lucas, Alya  a Begw yn cynrychioli’r ysgol ym Mangor yn ddiweddar. Er na ddaeth y tîm i’r brig fe wnaeth y disgyblion gyfrif da o hunain a mwynhau’r profiad yn fawr.

 

GWYL LLESIANT Y GWASANAETH IEUENCTID

Fel rhan o ŵyl llesiant y gwasanaeth ieuenctid cafodd rhai dosbarthiadau  gymryd rhan mewn gweithdai Lego. Y gamp oedd adeiladu cerbyd oedd yn symud o dan ei rym ei hun. Bu’r disgyblion yn rasio’r cerbydau er mwyn canfod y pencampwyr. Diolch i Andrew Owen o’r Gwasanaeth Ieuenctid am drefnu.

  • lego
  • plant yn defnyddio logo

AGORIAD GWINLLAN LLOYD

Fe gafodd criw o ddisgyblion yr ysgol wahoddiad gan y Cyngor Tref i fynd i agoriad swyddogol Gwinllan Lloyd. Diolch i’r cyngor am y fraint.

  • criw o ddisgyblion yn agoriad swyddogol Gwinllan Lloyd

GIG EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Bu disgyblion blwyddyn 11 yn gwrando ar y grŵp Skylrk fel rhan o ddigwyddiad i hybu'r Eisteddfod Genedlaethol a Maes B. Trefnwyd y gig gan Gydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Cyngor Gwynedd. Diolch am ddod i’r ysgol. Mae’r bwrlwm ar gyfer yr Eisteddfod yn cynyddu.

PEL FASGED

Bu dau dim yn cynrychioli yr ysgol mewn twrnament pêl fasged ac bu iddynt brofi llwyddiant. Daeth Tîm A yn gyntaf a byddant yn cynrychioli ysgolion Gogledd Orllewin Cymru mewn cystadleuaeth yn Aberystwyth ym mis Mehefin. Llongyfarchiadau i chi hogiau.

  • tim a
  • tim b

Neli’r Eliffant

Wedi blynyddoedd lawer yn y diffeithwch, mae aelod pwysig iawn o gymuned yr ysgol wedi dychwelyd! Faint ohonoch chi sydd yn cofio Neli? Tybed oes gennych stori i’w rhannu efo ni am ei hynt pan oeddech chi yn yr ysgol? Ein gobaith yw medru casglu cymaint o atgofion â phosib ynghyd er mwyn eu rhannu efo chi ar faes yr Eisteddfod lle bydd Neli yn westai anrhydeddus. A fyddech mor garedig á chysylltu efo ni dros y ffôn neu ar yr e-bost canlynol i rannu atgofion am eich cyfnod yn yr ysgol? post@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru. Diolch yn fawr.

  • neli'r eliffant

Cân yr ysgol
Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf byddwch yn clywed ein disgyblion yn canu’r geiriau arbennig hyn. Daw’r gân wreiddiol o’r sioe Fan Hyn a diolch i Guto Dafydd am addasu gwaith Gruffudd Parry. Mae’r geiriau yn crynhoi’r ymdeimlad o berthyn sydd mor greiddiol i ni yma yn yr ysgol.

MARIAN Y MÔR
Mae’r angor yn gadarn ger ffynnon a ffair, A’r strydoedd yn straeon sy’n newydd bob gair, Mae amser yn pasio ond aros o hyd Wnaiff hud Glan y Môr ynon ninnau i gyd. I gymeriadau’r wlad a’r dre Mae lle i bawb drwy’i gilydd; Bydd miri tir a daear Llŷn Yn tyfu’n gryfach beunydd. Marian y môr ar erchwyn y lli – Hwn ydi tir ein cynefin ni. Enlli yw’r hafan ar ddiwedd pob taith, Mae Gwylan yn gwarchod ein penrhyn a’n hiaith, Mae Tudwal yn clymu’n cymuned ynghyd – Mi fyddwn ni’n perthyn yn fama o hyd. O Drwyn y Garreg i Ben Garn Clywch sŵn ein barn a’n stori; Fe aiff y byd i gyd yn ddall Cyn pallo haul Pwllheli. Marian y môr ar erchwyn y lli – Hwn ydi tir ein cynefin ni. Addasiad Guto Dafydd o eiriau Gruffudd Parry


Newyddion Diweddaraf