Mehefin 2022

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Mehefin 2022

Adran Chwaraeon

Braf yw gweld  pethau yn nesáu at normal. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn twrneimantau rygbi, pêl fasged, pêl-droed, hoci, a hefyd mewn cystadleuaeth athletau ar lefel De Gwynedd a Sirol. Rydym yn llongyfarch pawb fu’n cymryd rhan, ac yn arbennig Mia Roberts sydd wedi ei dewis i dîm athletau dan 17 Eryri. Bydd Mia yn cystadlu yn y 1500m yn rowndiau terfynol Cymru, fis nesaf.

Rydym yn dymuno yn dda i Nansi Ioi Roberts fydd yn cynrychioli tîm hoci Cymru dan 16 oddi cartref yn Belfast y mis yma.

Rydym hefyd yn falch o lwyddiant Effi Lois Jones sydd wedi cael ei dewis i dîm hoci dan 13 Gogledd Cymru - da iawn chdi.

Ganol y mis bu Hari Annwyl Roberts yn cynrychioli Cymru yn nhîm pêl-droed dan 15 yng Nghroasia. Chwaraeodd Hari ym mhob un o'r 4 gêm yn erbyn Bwlgaria, Bosnia a Herzegovina, Gogledd Macedonia ac Iwerddon.

Da iawn bob un ohonoch, mae’r ysgol a’r adran Addysg Gorfforol yn falch iawn ohonoch.

  • Mia Roberts sydd wedi ei dewis i dîm athletau dan 17 Eryri. Bydd Mia yn cystadlu yn y 1500m yn rowndiau terfynol Cymru, fis nesaf.
  • Nansi Ioi Roberts hefo ffon hoci
  • Effi Lois Joneshefo ffon hoci
  • Hari Annwyl Roberts yn gwisgo cit cymru

Adran Gerdd

Mae’r adran wedi bod yn brysur yn ymarfer ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhelir yn Ninbych eleni. Rydym yn dymuno yn dda i’r disgyblion fydd y cynrychioli’r ysgol a chewch fwy o’u hanes yn y rhifyn nesaf. Os na fyddwch wedi clywed y partïon cerdd dant yn yr eisteddfod bydd cyfle i chi eu clywed yng nghyngerdd Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn Neuadd Dwyfor.

Adran Celf

Llongyfarchiadau i Dewi Griffith am ddod yn gyntaf yn y gystadleuaeth “dudalen gomig gyda chymeriad(au)” i ddisgyblion blwyddyn 7,8 a 9 yn Eisteddfod Celf Dylunio a Thechnoleg Rhanbarth Eryri. Da iawn chdi.

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llyn Ac Eifionydd

Mae disgyblion yr ysgol wrthi’n brysur yn paratoi clip fideo ar gyfer croesawu pawb i Ŵyl y Cyhoeddi. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gael gweld beth fydd y disgyblion wedi ei greu, cadwch olwg amdanyn nhw!

 


Newyddion Diweddaraf