Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Medi 2022
Dyma ni yn ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd. Rydym yn gobeithio fod pawb wedi cael mis Awst braf.
Blwyddyn 11
Bellach mae disgyblion blwyddyn 11 wedi ein gadael ac wedi cychwyn mewn colegau, ysgolion neu yn y byd gwaith. Hoffem fel ysgol eu llongyfarch i gyd ar eu llwyddiant yn yr arholiadau TGAU a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.
Ymweliad Athrawon Catalonia
Yn ystod mis Gorffennaf bu athrawon o Gatalonia ar ymweliad yn yr ysgol. Yn ystod y diwrnod cawsant gyfle i ymuno mewn gwersi a sgwrsio gyda disgyblion ac athrawon. Profiad diddorol iawn oedd trafod gydag athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng Catalan. Rhannwyd profiadau a llawer iawn o syniadau.
Llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Tregaron
Llongyfarchiadau i Lea Mererid Roberts ar ei llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Perfformiodd Lea ar lwyfan y Brifwyl yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol i rai o dan 16 oed. Roedd ei pherfformiad yn arbennig iawn.
Llongyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr o Lŷn yn yr Eisteddfod. Rydym fel ysgol yn edrych ymlaen yn eiddgar at eisteddfod Boduan a’r bwrlwm eisoes wedi cychwyn.
Hen Alawon Newydd
Eleni, penderfynodd ysgolion dalgylch Glan-y-Môr, gydweithio ar brosiect er mwyn creu geiriau newydd ar hen ganeuon neu alawon. Y bwriad oedd plethu'r hen a'r newydd. Byddai hyn yn rhoi cyfle i'r disgyblion ddysgu mwy am hanes a chefndir y caneuon gwreiddiol, yn ogystal â chreu fersiynau newydd eu hunain ohonynt gan ddathlu ein milltir sgwâr a’n hardal.
Bu pob ysgol yn gweithio gyda bardd, artist neu berson creadigol er mwyn creu'r geiriau newydd a phleser mawr oedd cydweithio gyda chyn-ddisgyblion a chyfeillion i’r ysgolion.
Ar ddiwedd y prosiect, cafodd yr ysgolion gyfle i recordio'r caneuon yn broffesiynol gyda chymorth cerddorion profiadol, fel bod modd i bawb wrando ar y caneuon a’u rhannu.
Os hoffech chi wrando ar y caneuon newydd defnyddiwch y Côd QR

Gweithgareddau
Ar diwedd y tymor, mewn haul crasboeth, cafodd y disgyblion fwynhau amrywiol weithgareddau. Buom yn gwneud tasgau tîm, ar deithiau cerdded ac yn ymweld â Neuadd Dwyfor. Bu fan hufen ia moethus a chwmni gwneud smwddi yn yr ysgol ac roedd hyn yn boblogaidd iawn ymysg y disgyblion.
Staff Yr Ysgol
Ar ddiwedd y tymor , mi wnaethon ffarwelio gyda nifer o aelodau o staff, rhai wedi bod yn ein cwmni am gyfnod byr ac eraill wedi addysgu cenedlaethau o ddisgyblion. Diolch a phob dymuniad da i Mrs Carys Owen, ein Pennaeth Celf, sydd wedi ein gadael ar ôl pum mlynedd ar hugain fel athrawes yn yr ysgol. Pob llwyddiant gyda’r fenter newydd.
Dymuniadau gorau hefyd i Ifan Dafydd Jones, Phil Kitchen, Alun Jones-Williams, Sian Moore a Gwen Hughes sydd wedi bod yn rhan o deulu’r ysgol yn ystod y flwyddyn.
Mae Mrs Medi Jones-Edwards yn ffarwelio ar secondiad am flwyddyn a Mrs Nicola Williams, ein cogyddes, wedi cael secondiad i weithio yn adran arlwyo yr Adran Addysg a dymunwn yn dda iddynt hwythau.
Hoffem groesawu Miss Heidi Littler yn ei hôl atom i’r Adran Saesneg yn dilyn cyfnod mamolaeth a chroeso yr un mor gynnes i Mrs Heather Russell fydd yn gweithio’n bennaf yn yr adrannau iaith a Ms. Nia Davies Jones fydd yn cychwyn fel cogyddes dros-dro.