Mai 2022

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Mai 2022

Pwyllgor Cymreictod

Ar y 25ain o Ebrill daeth Siân Eirug, sef Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd draw i gyfarfod aelodau y Pwyllgor Cymreictod er mwyn casglu syniadau ar gyfer gweithgareddau er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg. 

Mae'r pwyllgor yn gobeithio gweithio ar y syniadau hynny yn ystod y misoedd nesaf.

Pwyllgor Cymreictod

Gwelliannau I’r safle

Mae na gryn dipyn o waith wrthi’n digwydd ar safle Ysgol Glan y Môr i wneud y lle’n fwy diogel, difyr a chroesawgar ar gyfer ein disgyblion.  Fel y gwelwch chi o’r llun, mae’r Gilfach yn lloches braf i ddisgyblion gymdeithasu dros amser egwyl ac amser cinio, a hyd yn oed yn lle braf i gynnal ambell i wers yn yr awyr iach.  Dan ni hefyd wrthi’n gosod mwy o fyrddau picnic, goliau pêl droed, rygbi a phêl fasged newydd, a phwll tywod ar gyfer y naid hir ar y safle, felly mae hi’n ddifyr iawn yma ar y funud!

Er mwyn gallu gwneud hyn i gyd, ac er mwyn cadw disgyblion yn ddiogel ar safle’r ysgol, mae’n rhaid i ni gau mynediad i gae’r ysgol i’r cyhoedd.  Mae gwaith ffensio ar y gweill, a bydd y safle dan glo y tu hwnt i oriau’r ysgol o hyn ymlaen.  Bydd y cae rygbi pellaf, ger Ysgol Cymerau yn aros heb ei gloi am y tro, ond bydd y giât arno’n cael ei chau yn ystod pan fydd disgyblion yno am eu gwersi.  Dan ni’n falch o allu cefnogi mudiadau lleol fel Clwb Pêl Droed Ieuenctid Pwllheli, Clwb Beicio Dwyfor, a Clwb Treiathlon Dreigiau Dwyfor, ac mi fyddwn ni’n dal i fedru sicrhau eu bod nhw a mudiadau tebyg yn gallu trefnu i gael mynediad i’r cae ar gyfer eu gweithgareddau ar ein tiroedd fel arfer.

adeilad cysgodi newydd

Byw yn Iach yn  yr ardd

Mae’r ddarpariaeth Dysgu Awyr Agored yn mynd o nerth i nerth, hefo criw y Dosbarth DAA wrthi’n brysur yn helpu yng ngardd Byw’n Iach Dwyfor yn ogystal ag o gwmpas safle’r ysgol.

  Maen nhw’n gwneud hynny ar y cyd hefo criw Dementia Actif Gwynedd, ac yn cael budd mawr o sgwrsio ac o gydweithio hefo’r garddwyr profiadol sy’n rhan o’r criw. 

Dyma nhw’n hapus wrth eu gwaith!

 

gardd y disgyblion

Newyddion Diweddaraf