Gorffenaf 2022

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Gorffenaf 2022

Dyma ni yn nesáu at ddiwedd y tymor,  a dyma i chi ychydig o hanes y prysurdeb yn ystod y mis diwethaf.

Adran Mathemateg

Bu disgyblion o flwyddyn 8 yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Fathemategol, Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol, o dan law Prifysgol Bangor. Derbyniodd nifer o ddisgyblion dystysgrif ond llongyfarchiadau arbennig i  Gwenno Hughes, Lily Hardy ac Elliw Dyfed ar gyrraedd safon uchel a derbyn tystysgrif aur.

Llongyfarchiadau i Morgan fydd yn cael taith i Lundain i gymryd rhan mewn gweithgaredd fathemategol  yn dilyn  ei lwyddiant yn y Dosbarthiadau Meistroli Mathemateg y bu yn rhan ohono .

Disgyblion o flwyddyn 8 yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Fathemategol

Eisteddfod Yr Urdd

Bu nifer yn cynrychioli’r ysgol a Rhanbarth Eryri yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd  Sir Ddinbych fis Mehefin. Bu Fflur Williams yn cystadlu yn y gystadleuaeth dawnsio disgo i ddisgyblion blynyddoedd 7 i 9.  Cafodd Parti Cerdd Dant Blwyddyn 7 i 9 a grŵp Cerdd Dant blwyddyn 10 i  13  gyfle i gystadlu yn un o’r tri phafiliwn newydd ar y maes a rhoddodd pawb berfformiad clodwiw.  

Rydym fel ysgol yn falch iawn o lwyddiant Lea Mererid Roberts, Blwyddyn 9  a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth canu piano i ddisgyblion blwyddyn 7 i 9. Roedd yn gystadleuaeth o safon uchel iawn - llongyfarchiadau mawr i chdi Lea.

Gŵyl Lenyddol Fach

Yn ddiweddar cyflwynodd  rhai o ddisgyblion blwyddyn 7 eitem yn yr Ŵyl Lenyddol Fach, a oedd yn cael ei chynnal yn Neuadd Dwyfor, ddydd Sul y 12fed o Fehefin.  Pwnc eu cyflwyniad oedd Cynan a Baled Largo.  Roedd yn gyfle i'r disgyblion rannu'r hyn yr oedden nhw wedi ei ddysgu am Cynan yn eu gwersi Cymraeg, yn ogystal â dangos y gwaith creadigol ddeilliodd o’r gwersi.  Roedd yn gyflwyniad amrywiol yn dangos eu doniau i chwarae rôl, creu animeiddiadau a chreu placiau a llyfrynnau gwybodaeth.

Lea Mererid Roberts hefo'i medal

Croeso I Lŷn Ac Eifionydd

Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, bu'r disgyblion wrthi yn creu clip er mwyn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Lŷn ac Eifionydd.  Fe wnaethant hynny drwy greu arwyddion o'u hoff lefydd, neu o lefydd oedd yn bwysig iddyn nhw yn yr ardal.  Yn y diwedd, daethpwyd a'r holl luniau at ei gilydd i greu clip yn croesawu'r Eisteddfod.

Cyngerdd Cyhoeddi 

braint i ni fel ysgol oedd cael gwahoddiad i gymryd rhan yng nghyngerdd cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd. Bu aelodau'r parti cerdd  dant a’r grŵp cerdd dant yn perfformio. Uchafbwynt y noson i’r disgyblion oedd cael cyd ganu “Yma o Hyd” gyda Dafydd Iwan a’r holl artistiaid eraill i gloi noson fythgofiadwy.

Cyngerdd cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd

Sioe Kariad

Cafodd criw o ddisgyblion blwyddyn 7 eu diddori gan Karen Wynne o gwmni 'Kariad' gyda sioe rithiol. 

O fewn y gweithdy hwn roedd y disgyblion yn cael dysgu sut i wneud triciau hud a lledrith. 

Yn dilyn hyn, fe wnaeth y disgyblion gyfarfod Karen unwaith eto ar Teams, er mwyn rhoi adborth iddi ar sut y gellir addasu'r sioe ar gyfer disgyblion sy'n trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd. Roedd gan y disgyblion farn a syniadau clir ac ymarferol iawn.

Cafodd criw o ddisgyblion blwyddyn 7 eu diddori gan Karen Wynne o gwmni 'Kariad' gyda sioe rithiol.

Pêl Fasged

Llongyfarchiadau mawr i Jac Crockett a Steffan Williams ar gael eu dewis yn aelodau o dîm pêl fasged cadair olwyn Cymru o dan 14.  Mae hon yn dipyn o gamp iddyn nhw ac yn ffrwyth llafur oriau o ymarfer gyda Chlwb Pél-fasged Cadair Olwyn Celts Caernarfon. Rydym yn falch iawn ohonoch chi hogiau a phob hwyl i chi!
 

Adran Ffrangeg

Bu disgyblion blwyddyn 9 yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfieithu - Gwobr Anthea Bell i Gyfieithwyr Ifanc . Trefnwyd y gystadleuaeth gan y Translation Exchange yng Ngholeg y Frenhines, Prifysgol Rhydychen.

Eleni , am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth roedd modd i'r disgyblion gyflwyno cyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg.

Cafodd tri disgybl o'r ysgol gymeradwyaeth gan y beirniaid am safon eu gwaith a chyda dros 3,200 o geisiadau o fwy na 260 o ysgolion ar draws Prydain, mae hynny yn dipyn o gamp!

Llongyfarchiadau mawr i Elliw Evans, Sennen Wray a Jac Jones am eu llwyddiant.

Jac Crockett a Steffan Williams ar gael eu dewis yn aelodau o dîm pêl fasged cadair olwyn Cymru o dan 14

Ymweliadau Cynradd

Yn ystod y mis yma bu disgyblion blwyddyn 6 ar ymweliadau â’r ysgol fel paratoadau ar gyfer yn cychwyn yma mis Medi. Cawsant gyfle i gymryd rhan  mewn gweithdai lles, gweithdy cerdd, sesiwn gelf, gwersi iaith a dysgu sgiliau gweithio fel tîm.  Gobeithio fod pawb wedi mwynhau eu hunain ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu atom fis Medi.

Ffarwelio

Hoffem ddymuno yn dda i’r staff canlynol a fydd yn ein gadael ar ddiwedd y tymor gan ddiolch yn fawr i chi am eich gwaith yn yr ysgol a’ch cyfeillgarwch. Pob lwc i  Twm Hughes , Sian Moore ac Alun Jones Williams wrth i chi droi dalen newydd yn eich hanes. Cofiwch alw draw i’n gweld!


Newyddion Diweddaraf