Ebrill 2022

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Ebrill 2022

Wel mae'r mis diwethaf wedi bod yn un prysur yma yn yr ysgol gyda’r disgyblion yn cael amrywiol brofiadau. Dyma I chi beth o’r hanes:

Ymweliad cwmni teledu boom plant

Bu cynrychiolwyr o’r cwmni teledu yn yr ysgol yn herio grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 I gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau datrys problemau.

Bwriad yr ymweliad oedd dod o hyd I grŵp o blant fyddai yn teilyngu eu lle mewn cyfres deledu o’r enw "Gwrach y rhibyn".

Rydym yn falch iawn o allu deud bod ein hysgol ni wedi bod yn llwyddiannus ac y bydd recordio yn digwydd ym mis mai. Yn ogystal â hyn, mi gafodd grŵp bach o ddisgyblion blwyddyn 8 fod yn rhan o gyfarfod zoom gyda chynhyrchwyr o gwmni boom plant er lleisio eu barn ar sut fath o sianeli digidol sydd yn boblogaidd ymysg pobl ifanc. 

Roedd yn gyfle hefyd I fynegi eu barn ar deitlau sianeli digidol newydd sydd yn cael eu datblygu ganddynt.

dosbarth o blant

Gwasanaethau ieuenctid -

Fel rhan o ŵyl llesiant ieuenctid gwynedd mi wnaeth andrew o @ieugwyneddyouth drefnu I ddisgyblion blwyddyn 10 gael cymryd rhan mewn sesiwn ‘stressed out’. Diolch I trystan a lia o @trac1124 am arwain y weithgaredd. Mi wnaeth y disgyblion fwynhau'n fawr ac, am eu hymdrechion,  derbyniodd bob disgybl focs llesiant

Ymweliad pc rhiannon wright  

Cafodd disgyblion blwyddyn 9 sesiynau ar gadw’n ddiogel a’r peryglon sydd yn cael eu hwynebu ar gyfryngau cymdeithasol gan pc rhiannon wright. Cafwyd cyflwyniad diddorol a chwestiynau pwysig a chraff yn cael eu gofyn.

Hen alawon newydd

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae disgyblion blwyddyn 7 wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect ‘hen alawon newydd’ gydag ysgolion cynradd y dalgylch. 

Fel rhan o’r prosiect hwn, bu’r disgyblion yn cyfansoddi geiriau newydd ar hen alawon cymraeg. 

Roedd angen I’r geiriau newydd rheiny ddathlu ein milltir sgwâr yma yn llŷn ac eifionydd.  Felly, ar ôl cyfansoddi geiriau newydd gyda’r prifardd gruffudd eifion owen ym mis ionawr, bu disgyblion blwyddyn 7 yn ymarfer canu’r gán newydd yn eu gwersi cerdd ac yn ystod cyfnodau cofrestru. 

Yna, ar y 23ain o fawrth cafodd y disgyblion y profiad cyffrous o recordio’r gân ar ei newydd wedd.  Braf oedd croesawu dau gyn-ddisgybl, sef ceiri a siôn yn ôl er mwyn gwneud y gwaith recordio. 

Edrychwn ymlaen at glywed y cynnyrch gorffenedig yn fuan a gobeithio y bydd cyfle I rannu’r holl ganeuon sydd wedi eu cyfansoddi yn y gwahanol ysgolion gyda chi.

plant yn canu

Llwyddiant mathemategol

Llongyfarchiadau I morgan probert o flwyddyn 10 am ei lwyddiant arbennig yn ennill gwobr mewn cystadleuaeth fathemategol a drefnwyd I ddathlu diwrnod rhyngwladol y merched. Roedd hon yn gystadleuaeth a drefnwyd gan prifysgol abertawe ar gyfer disgyblion sy’n mynychu dosbarthiadau meistr mathemateg.

Adran chwaraeon

Bu timau rygbi , pêl-fasged a hoci yn cymryd rhan mewn twrnameintiau ar lefel gogledd cymru yn ystod y mis. Er na ddaethant I’r brig roedd pawb wedi mwynhau ar ôl cyfnod cyhyd heb gemau.

tim hoci

Eisteddfod yr Urdd

Mae wedi bod yn braf clywed canu a gweld bwrlwm ymarferion yn yr adran gerdd unwaith eto yn ddiweddar. Llongyfarchiadau I bawb fu’n cynrychioli’r ysgol, yn unigol a thorfol, yn eisteddfodau rhanbarth eryri.

Daeth Llwyddiannau I’r Disgyblion Canlynol:

Unawd Alaw Werin Bl7 I 9 – 2il  Liam Arfon Jones
Unawd Cerdd Dant Bl.10  I 13 – 2il Fflur Williams
Dawns Hip Hop/stryd/disgo Bl.7 I 9 – 1af Fflur Williams
Unawd Chwythbrennau Bl. 7 I 9 - 2il Lea Roberts
Unawd Piano Bl.7 I 9 - 1af - Lea Roberts
Unawd Telyn Blwyddyn 10 I 13 - 2il - Megan Jones
Parti Cerdd Dant Bl 7 I 9 – 1af
Grŵp Cerdd Dant Bl.10 I 13 - 1af

Pob hwyl I Lea Roberts, Fflur Williams, y parti cerdd dant iau a’r grŵp cerdd dant hŷn a  fydd yn mynd ymlaen I gystadlu yn Ninbych yn ystod y sulgwyn.

  • parti cerdd dant
  • Lea Roberts
  • Fflur Williams

Newyddion Diweddaraf