Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Newyddion Ysgol Mawrth
Dyma ychydig o hanes gweithgareddau yma yn yr ysgol yn ystod y mis diwethaf.
DIWRNOD MIWSIG CYMRU
Bu’r disgyblion yn cael gwrando ar gerddoriaeth yn ystod eu gwersi ar Ddiwrnod Miwsig Cymru. Roedd Miss Sioned Huws wedi creu rhestr chwarae oedd yn cynnwys caneuon Cymraeg sydd yn ffefrynnau gan y staff a’r disgyblion. Yn ystod yr awr ginio, cynhaliwyd cystadleuaeth meimio i gerddoriaeth i ddisgyblion iau'r ysgol a derbyniodd Cerys ac Elisha wobr am eu meim.
ORIELODL
Dyma Hair gyda'i waith celf yn amlygu geiriau'r Anthem Genedlaethol.
YMWELIAD Y DYN ADAR
Braf oedd cael croesawu Islwyn y dyn adar yn ôl atom. Cafodd y disgyblion brofiadau gwych yn ei gwmni. Roedd hyn yn amrywio o afael yn yr aderyn i weld sut oedd yn ymateb i orchmynion. Roedd yn wych cael bod mor agos at yr adar hynod hyn.
GWEITHDY DRAMA
Braf oedd cael croesawu Mared Llywelyn o Gwmni Drama Tebot i’r ysgol i gynnal gweithdy gyda blwyddyn 7 a holl ddisgyblion dosbarth Cybi. Yn dilyn y gweithdy mae Mared wedi ein gadael gyda stôr o syniadau a bydd yn ysgrifennu drama fer ar gyfer ei pherfformiad gan y disgyblion. Gobeithio y bydd cyfle i ffilmio'r ddrama orffenedig. Mae’r weithgaredd yma yn rhan o brosiect dalgylchol ble mae pob ysgol o fewn y dalgylch yn gweithio gyda dramodydd i lunio drama fer.
APÊL TWRCI A SYRIA
Yn sgil y drychineb yn Nhwrci a Syria yn dilyn y daeargryn diweddar, bu’r disgyblion yn codi arian i gefnogi Apêl DEC.
YMWELIAD A GLAN LLYN
Bu criw o flwyddyn 9 yng Nghlan Llyn yn ddiweddar i gymryd rhan mewn gweithgareddau oedd yn hybu llesiant. Trefnwyd y gweithgaredd gan y Gwasanaeth Ieuenctid. Bu i’w criw fwynhau'r diwrnod yn fawr.
ADRAN ADDYSG GORFFOROL
Unwaith eto mae wedi bod yn fis prysur yn yr adran hon.
Pêl-droed:
Mi wnaeth bechgyn Blwyddyn 8 golli ar giciau o'r smotyn ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru ar ôl gem gyfartal 1-1 yn erbyn Ysgol y Moelwyn. Sgoriwyd y gôl gan Monti Ellis.
Rygbi:
Daeth bechgyn Blwyddyn 10 yn ail yn nhwrnement Meirion-Dwyfor, gyda buddugoliaethau yn erbyn Eifionydd, Bro Hyddgen a Godre'r Berwyn.
Colli oedd hanes bechgyn Blwyddyn 9 a hynny o 44-24 yn rownd derfynol Eryri yn erbyn Ysgol Syr Hugh Owen. Sgoriwyd 4 cais gan Noa Griffith.
Mi wnaeth bechgyn Blwyddyn 8 orffen yn 5ed yn nhwrnement Meirion-Dwyfor.
Pêl-fasged:
Mi wnaeth bechgyn Blwyddyn 8 gystadlu yn nhwrnamaint Eryri yn ddiweddar. Mi wnaeth Tîm A gyrraedd 8 olaf y gwpan a Thîm B gyrraedd 8 olaf y plât.
Traws-Gwlad
Llongyfarchiadau i 5 o ddisgyblion wnaeth gystadlu ar lefel Eryri ar ôl gorffen yn 10 uchaf yn rhanbarth Meirion-Dwyfor.
Elis Hughes a George Clavin- Blwyddyn 7
Iolo Williams- Blwyddyn 8
Ashley Jones- Blwyddyn 10
Mia Roberts- Blwyddyn 11
Llongyfarchiadau mawr i Mia Roberts wnaeth orffen yn 10fed yn rownd Eryri.