Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Newyddion Ysgol Chwefror
DIOGELWCH SEIBR
Daeth Tîm Troseddu Seiber o Heddlu Gogledd Cymru atom i wneud gweithgaredd ystafell ddianc gyda disgyblion blwyddyn 9. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu am sut i fod yn fwy diogel yn ogystal â chael hwyl ar yr un pryd. Diolch yn fawr i STEM Gogledd a Thîm Troseddu Seiber.
Clwb yr Urdd
Ar ddechrau tymor newydd mae Clwb yr Urdd wedi ail ddechrau ar gyfer disgyblion blwyddyn 8. Cafodd y disgyblion lawer o hwyl yn y gweithgareddau cychwynnol oedd yn cynnwys gemau bingo, cwis a dawnsio. Edrychwn ymlaen at weithgareddau eraill ar gyfer gweddill y tymor