Medi 2021 - Croeso Nôl

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Medi 2021 - Croeso Nôl

Croeso Nôl

Dyma hi yn fis Medi unwaith eto sydd yn golygu cychwyn blwyddyn ysgol newydd. Bu’r flwyddyn ysgol ddiwethaf yn un hynod o wahanol a’n gobaith yw y bydd eleni’n debycach i’r arfer.
Fel sydd yn arferol ar ddechrau blwyddyn ysgol rydym yn croesawu staff a disgyblion newydd atom. Rydym yn gobeithio y byddwch i gyd yn hapus yma yn Glan y Môr.  Hoffem fel ysgol longyfarch Mrs Medi Jones -Edwards a Mrs Tanya Hughes Jones  ar enedigaeth Mei John a Nansi Rhys yn ystod gwyliau’r haf.

Mwynhau Gweithgareddau

Yn ystod y pythefnos cyn cau am y gwyliau haf cynhaliwyd nifer o dwrnameintiau criced a rownderi ymysg y gwahanol flynyddoedd a chafodd y disgyblion  gyfle i fwynhau. Bu disgyblion blwyddyn 7 a Cybi yn gwrando ar ensemble Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. Dyma beth oedd gan Mr Iwan Williams y Pennaeth Cerdd i’w adrodd ar ôl y digwyddiad:

“Wedi'r holl gyfyngu ar weithgareddau cerddorol yn ystod y flwyddyn, pleser oedd gallu croesawu aelodau o Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn i'r ysgol ddiwedd tymor yr Haf. Cafwyd cyflwyniad difyr a pherfformiadau caboledig gan yr ensemble. Gobeithio'n wir cawn ail-afael mewn mwy o weithgareddau tebyg yn fuan”.

Disgyblion yn gwrando ar cerddoriaeth

Llwyddiant

Daeth cryn lwyddiant i rai o ddisgyblion yr ysgol. Fel y cofiwch o rifyn diwethaf o'r Llanw enillodd tîm o ddisgyblion blwyddyn 10  eu lle yn y cymal nesaf  o her gwyddorau bywyd a drefnwyd gan Brifysgol Meddygaeth Caerdydd.  Braf yw cael adrodd for Tomos Roberts, Osian Thomas a Sam Griffiths wedi bod yn llwyddiannus unwaith eto a byddant yn herio tîm naill ai o Ysgol Tryfan neu o Ysgol Syr Hugh Owen yn y rownd derfynol ganol mis Medi. Os bydd amodau yn caniatáu cynhelir y rownd derfynol honno yng Nghaerdydd. Pob lwc i chi hogiau.

Yn ddiweddar bu disgyblion dosbarthiadau Busnes blwyddyn 10 yn brysur yn cystadlu mewn her dros Gymru gyfan, o'r enw Dechrau Rhywbeth Da gan Syniadau Mawr Cymru.  Gofynion yr her oedd creu syniad o fenter gymdeithasol leol newydd.

Rydym yn hynod falch o gael llongyfarch Megan Jones am ddod i'r brig yn y gystadleuaeth, yn rhanbarth Y Gogledd. Enw ei menter gymdeithasol hi fyddai Rhyfeddodau Cymraeg a'r syniad yw hyrwyddo enwau Cymraeg Pen Llŷn yr ardal ar fapiau wedi eu creu gan artistiaid lleol. Fel enillydd mae Megan yn derbyn £100 i roi i elusen o'i dewis, sef Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.

Derbyniodd  Llion Ferris, Gethin Johnson, Tomos Morris, Elis Ogilvy-Bardsley ac Elis Thompson o griw busnes  ACE Fisors ganmoliaeth uchel iawn am eu syniad o gasglu sbwriel ailgylchadwy ac yna eu troi'n fisorau diogelwch.

Llongyfarchiadau mawr i'r holl ddisgyblion am gymryd rhan ac am dderbyn canmoliaeth gan y beirniaid.

Am fwy o fanylion, gallwch fynd i wefan Syniadau Mawr Cymru, neu isod mae côd QR i chi sganio gyda'ch dyfais electroneg.

Llongyfarchiadau i bawb.

Côd QR

Newyddion Diweddaraf