Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Mawrth 2022
Ffarwelio
Hoffem ddymuno yn dda I glain thomas oedd yn ein gadael ddiwedd yr hanner tymor.
Bu’n athrawes gymraeg yma ers pum mlynedd ar hugain ac mae bellach yn symud ymlaen I fenter newydd. Pob lwc I chdi glain a diolch I chdi am dy ymroddiad, dy fedrusrwydd fel athrawes a dy gyfeillgarwch dros y blynyddoedd.
Ymweliad y dyn adar
Ddechrau chwefror bu islwyn jones - y dyn adar (pen y bryn falconry) yn ymweld â’r ysgol.
Cafodd dosbarth cybi a’r dosbarthiadau dysgu awyr agored gyfle I fod yn rhan o’r gweithdy a chael profiadau bythgofiadwy yn gafael mewn adar ysglyfaethus a’u gwylio’n hedfan. Cawsant hefyd gyfle I holi islwyn am y gofal mae o’n ei roi I’r adar hyn a rhyfeddu at yr hyn maen nhw’n medru ei gyflawni.
Rydym fel ysgol yn ddiolchgar am gefnogaeth cynllun y llywodraeth - syniadau mawr cymru.
Ymweliad â morfa bychan
Mae criw o’r ysgol bellach yn cael cyfle I ymweld â fferm coed y llyn, treflys, porthmadog er mwyn cael profiadau o ofalu a chydweithio â cheffylau. Mae hwn yn broject cyffrous iawn ac mae’r disgyblion yn cael budd o weithio yng nghwmni anifeiliaid a staff gofalus a medrus.
Ail gylchu dillad
Mae’r ysgol yn parhau I weithio gydag antur waunfawr drwy gasglu dillad nad oes eu hangen mwyach.
Bellach mae’r bin ail gylchu dillad oedd ar safle'r ysgol wedi ei ail leoli ar faes parcio bron y de ac ychwanegwyd un arall yna hefyd. Felly, os oes gennych ddillad I’w ail gylchu yna cofiwch fynd â nhw draw I’r maes parcio gan y byddwch yn cefnogi antur waunfawr ac ysgolion y dref.
Bydd ysgol glan y môr ac ysgol cymerau yn derbyn cyfraniad gan antur waunfawr am y dillad sy’n mynd I’r bin.
Sbwroriel
Sbwriel yn oriel o harddwch
Bu disgyblion blwyddyn 7 yn ddiwyd yn trawsnewid sbwriel o wastraff plastig yn flodau unigryw a lliwgar mewn cyfres o weithdai o dan arweiniad ella louise jones, artist, a chyn ddisgybl yr ysgol. Project gan arloesi gwynedd wledig ydy sbwroriel gyda’r nod o fagu diddordeb a balchder yn ein hardal leol.
Bydd y blodau, a wnaed o hen boteli plastig, yn cael eu harddangos yn lleol.
Dywedodd un o’n disgyblion,
“roedd yn braf cael creu rhywbeth lliwgar, diddorol, o sbwriel. Dwi’n edrych ‘mlaen at gael mynd I weld y blodau yn cael eu harddangos.”.
Dymuniadau gorau I’r project wrth iddo ddatblygu ymhellach yn ein cymuned.
Adran addysg gorfforol
Trawsgwlad
Llongyfarchiadau I mia roberts a nanw williams sydd wedi eu dewis I gynrychioli eryri ym mhencampwriaeth traws gwlad cymru.
Llun - trawsgwlad
Rygbi
Llongyfarchiadau I tomos rhys jones ar gael ei ddewis I garfan rcg dan15. Da iawn chdi tomos