Ionawr 2022

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Ionawr 2022

Cinio Nadolig

Ddydd Mercher, Rhagfyr 15fed cafodd disgyblion a staff yr ysgol ginio Nadolig bendigedig wedi ei baratoi gan Mrs Nicola Williams a holl staff y gegin. Diolch iddyn nhw am baratoi gwledd ar ein cyfer unwaith eto eleni.  

Roedd yn braf gweld pawb yn gwisgo eu siwmperi Nadolig lliwgar ac yn cyfrannu arian at Fanc Bwyd Pwllheli. Casglwyd 325 o bunnau ar gyfer yr achos lleol teilwng hwn.  Ar Ragfyr 17eg bu criw o ddisgyblion yn cyflwyno'r arian i wirfoddolwyr y banc bwyd.

Llwyddiant

Llongyfarchiadau i  Nansi Ioi Roberts ar gael ei dewis i garfan  tîm hoci Cymru .

 

criw o ddisgyblion yn cyflwyno'r arian i wirfoddolwyr y banc bwyd

Newyddion Diweddaraf