Hydref 2022

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Hydref 2022

Chwaraeon

Mae tymor newydd y golygu cyfnod prysur i rai o dimau pêl droed yr ysgol

Bu tîm pêl-droed bechgyn Blwyddyn 10 yn cystadlu yn rownd 1af Cwpan Cymru yn erbyn Ysgol Botwnnog. Y sgôr ar ddiwedd y gêm oedd Botwnnog :1  Glan y Môr :9.

Sgoriwyd goliau'r ysgol gan Charlie Griffith x 3; Llyr Williams x 2; Leon Jarvis-Hughes; Osian Williams; Noa Griffith; Owen Roberts. Da iawn chi hogiau a phob lwc yn y rownd nesaf.

Taith i Ddolgellau i chwarae yn erbyn Ysgol Bro Idris gafodd bechgyn tîm blwyddyn 8. Cafwyd gêm gyffrous rhyngddynt.  Mae’r wên ar wynebau’r bechgyn yn dweud y cyfan wedi iddynt gael buddugoliaeth ar y cae y tro hwn.  11-3 oedd y sgôr.  Diolch i Fro Idris am y gêm a llongyfarchiadau fechgyn ar eich llwyddiant!  

y tim peldroed

Llwyddiant Ar Lefel Cymru

Pêl Fasged Cadair Olwyn

Llongyfarchiadau i Steffan a Jac o flwyddyn 9 ar eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth Pêl Fasged Cadair Olwyn Prydain ym mis Awst.  Daeth tîm Cymru o Dan 14 oed yn ail yn y bencampwriaeth eleni, a’r sgôr terfynol yn erbyn  Tîm Swydd Efrog oedd 12-22.  “Roedd yn brofiad gwych cael bod yn aelod o dîm Cymru!” meddai Jac am ei brofiad yn y Bencampwriaeth.  Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu camp arbennig.

Tîm Pêl Droed Cymru

Llongyfarchiadau i Hari Anwyl Roberts ar gael  ei ddewis unwaith eto  i gynrychioli Cymru dan 16 Cymru. Bydd yn teithio gyda’r garfan bêl droed  i Ffrainc ddechrau Hydref.

Steffan a Jac ym Mhencampwriaeth Pêl Fasged Cadair Olwyn Prydain

Llwyddiant Cerddorol

Yn dilyn ei llwyddiant yn ystod yr haf mae Lea Roberts yn cynrychioli’r ysgol yng Ngŵyl Gerdd Gogledd Cymru yn y Gadeirlan yn Llanelwy ddechrau Hydref. Bydd yn cael profiad arbennig o gael perfformio gyda Cherddorfa Sinffonia yn y Gadeirlan, dan arweiniad y cerddor enwog Jon Guy.
Y thema yw "Hen Chwedlau". Mae  yna  griw o gerddorion ifanc eraill o wahanol ysgolion o Ogledd Cymru yn rhan o’r digwyddiad yma.  Da iawn chdi Lea a phob lwc yn y cyngerdd.

Cyfarfod Cyntaf O’r Senedd

Dyma griw’r Senedd Ysgol wnaeth gyfarfod brynhawn Iau, 29/9/2022 am y tro cyntaf.  Mae’r Senedd Ysgol yn fforwm pwysig i’r disgyblion gael trafod materion sy’n dylanwadu ar fywyd ysgol.  Yn ogystal â hyn bydd cynrychiolaeth o’r Senedd yn aelodau o Gorff Llywodraethol yr ysgol.  Yn y cyfarfod cychwynnol hwn, ffurfiwyd amrywiol is-grwpiau a fydd yn llunio rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn.  Mae’r ysgol yn edrych ymlaen at eu cyfraniad pwysig i fywyd ysgol

 

Dyma griw’r Senedd Ysgol

Eisteddfod Ysgol

Bydd yr ysgol yn ail lansio’r Eisteddfod Ysgol eleni am y tro cyntaf ers 2019. Etholwyd y disgyblion canlynol o flwyddyn 11 i arwain eu timau. Pa dîm fydd yn fuddugol? Cawn wybod dydd Iau y 27ain o Hydref!

  • Enlli: CAPTEINIAID – Eban Buckley-Jones a Milli Roberts IS-GAPTEINIAID - Finlay Rae a Cara Williams
  • Gwylan: CAPTEINIAID Morgan Hughes a Chayika Jones IS-GAPTEINIAID Gwion Anwyl a Mia Roberts
  • Tudwal: CAPTEINIAID - Aran Williams a Beca Jones IS-GAPTEINIAID - Twm Williams ac Erin Davies

Bore Coffi Macmillan

Fore Gwener, Medi’r 30ain ar ddiwrnod bore coffi Macmillan bu staff yr ysgol yn mwynhau paned a chacen er mwyn codi arian tuag at yr apêl . Bu’r disgyblion hefyd yn casglu arian drwy gyfrannu teisennau a’u gwerthu i’w cyd ddisgyblion. Rydym yn falch iawn o fedru cyfrannu tuag at achos gwerth chweil.

 


Newyddion Diweddaraf