Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Diwrnod Shwmae Su'mae
I ddathlu diwrnod Shwmae Su'mae eleni, mi wnaeth y Criw Cymreictod drefnu cwis am Gymru a'r iaith Gymraeg.
Llongyfarchiadau mawr i Efa o flwyddyn 7 am ddod yn fuddugol yn y cwis!
Fe fu criw hefyd wrthi yn brysur yn hysbysebu a thynnu sylw at y digwyddiad yn ystod yr wythnos.
Yn ystod y diwrnod, cafodd y dosbarthiadau'r cyfle i edrych ar gyflwyniad ar ddiwrnod Shwmae Su'mae, a chyfle hefyd i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg mewn rhai o’r gwersi.