Chwefror 2022

Hafan > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Chwefror 2022

Llwyddiannau Ar Y Maes Chwarae

Llongyfarchiadau mawr i’r chwiorydd Nansi a Daloni Roberts ar eu llwyddiant ym maes hoci.

Mae Nansi Ioi Roberts sydd wedi ei dewis i dîm Hoci -16 Cymru. Bydd Nansi yn derbyn ei chapiau cyntaf yn nhymor y Gwanwyn yn erbyn yr Alban ac oddi cartref i Ffrainc.

Mae'r ysgol a'r Adran Addysg Gorfforol yn falch iawn o'i llwyddiant. Da iawn  ti Nansi.

Dewiswyd  Daloni Ioi Roberts (14) a Nansi Ioi Roberts (15) i dîm Hoci -16 Gogledd Cymru. Da iawn chi genethod.

Daloni a Nansi Ioi Roberts wedi cael ei ddewis i dim Hoci dan 16 Cymru

Gweithdy Gyda Gruffudd!

Ar ddydd Iau, yr ugeinfed o Ionawr, cafodd disgyblion blwyddyn 7 yr ysgol gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy rhithiol gyda un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, sef Gruffudd Eifion Owen.  Eu tasg yn ystod y bore oedd creu cerdd barodi ar y thema 'fy milltir sgwâr'.  

Erbyn diwedd y gweithdai roedd cerddi parod gan y disgyblion, ac edrychwn ymlaen i wneud gwaith pellach yn defnyddio'r cerddi yn ystod y tymor.

Pen-blwydd yr Urdd - Torri Record Byd!

Llongyfarchiadau i ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 fu'n rhan o ymgais yr Urdd i dorri record Byd. Yn wir, llwyddwyd i dorri'r record am y nifer o bobl yn uwch lwytho'r un gân i'r cyfryngau cymdeithasol o fewn amser penodol. Hei Mistar Urdd - Pen-blwydd hapus yn 100 oed! Gyda gobaith, edrychwn ymlaen rŵan i ddechrau paratoi ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2022.

Disgyblion yn gwrando ar Gruffudd Eifion Owen

Ymweliad Mabon ap Gwynfor.

Pleser oedd croesawu Elin Hywel, Mabon ap Gwynfor ac Aaron Wynne i’r ysgol fore dydd Gwener, Ionawr 28ain. Cafodd cynrychiolwyr o’r Senedd yma yn yr ysgol gyfle i holi cwestiynau ac i drafod materion sy’n bwysig iddyn nhw.


Newyddion Diweddaraf