Ysgol
![]() |
“Sicrhau addysg o’r safon uchaf bosib i bob disgybl a’u harwain i ddatblygu yn unigolion cyfrifol, aeddfed a llawn o’n cymdeithas ddwyieithog.” Ysgol gyfun ddwyieithog ar gyfer disgyblion rhwng 11-16 oed sy’n cael ei chynnal gan Awdurdod Addysg Gwynedd yw Ysgol Glan Y Môr. |
Tra’n gweithio i wireddu hyn gyda’r disgyblion , fe ymrwymwn i gynnwys rhieni fel partneriaid yn ein hymdrechion. Mae’r bartneriaeth yma yn holl bwysig er lles pob disgybl ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda chi er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i’ch plentyn. Rwy’n gobeithio y cewch flas o’r hyn a gynigir yn Ysgol Glan Y Môr drwy bori drwy dudalennau’r wefan hon. |