Adrannau
Cliciwch ar y pennawd er mwyn cael gwybodaeth
Gwybodaeth yn dod yn fuan
Addysg Grefyddol
Mae Addysg Grefyddol yn cael ei gynnig fel pwnc i holl ddisgyblion yr ysgol yng nghyfnod allweddol 3. Mae’r cwricwlwm wedi ei seilio ar y Maes Llafur Sirol sy’n cyfateb i’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer y pwnc. Mae’r cynnwys yn agored i ddisgyblion o bob cefndir a gallu ac yn rhoi sylw i chwe prif grefydd y byd. Yn naturiol rhoddir sylw teilwng i Gristnogaeth er mwyn adlewyrchu natur Cymru a’r gymuned leol. Mae’r adran yn derbyn ymwelwyr i’r gwersi, yn mynd ar ymweliadau achlysurol ac yn trefnu rhai gwasanaethau arbennig (e.e. y Nadolig a Gŵyl Ddewi) ac yn ymdechu’n flynyddol i godi arian ar gyfer Cymorth Cristnogol. Ymhlith y themau ym mlynyddoedd 7-9 y mae Perthyn, Credoau, Ymrwymiad, Dioddefaint, Crefydd yn yr 21ain ganrif.
Cynigir cwrs TGAU i ddisgyblion CA4. Mae’r adran yn dewis cwrs manyleb B Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru. Dyma gwrs thematig ar bynciau fel Ein Byd, Crefydd a Gwrthdaro a Crefydd a Meddygaeth. Mae’r themau yma’n cael eu hastudio o safbwynt Cristnogaeth ac Islam yn bennaf. Bu canlyniadau TGAU yn gyson dda ar hyd y blynyddoedd a bellach mae’n bosibl eistedd arholiad ar hanner cyntaf y cwrs ar ddiwedd blwyddyn 10. Trefnir ymweliadau â synagog, mosg neu eglwys gadeiriol fel rhan o’r cwrs TGAU. Mae’r adran hefyd yn cyfrannu i wersi Abach CA4.
![]() |
Ymweld â mosg ym Manceinion |
Gwybodaeth yn dod yn fuan
Cerddoriaeth
Pennaeth yr Adran Gerdd ydy Mr Iwan Williams, ond mae nifer o athrawon teithiol yn cefnogi’r adran trwy ymweld â’r ysgol i roi gwersi unigol o dan gynllun offerynnol Ysgolion William Mathias:
·
· Mrs C. Alwena Roberts - Telyn a Llais
· Mr Ray Forrest - Gitar a Drymiau
· Mr Caleb Jones - Pres
Anogir yr offerynwyr ifanc i ymuno â’r Gerddorfa Rhanbarth a bydd rhai yn llwyddo i gyrraedd y safon i fynychu Grwpiau Offerynnol y Sir.
Mae’r gweithgareddau Allgyrsiol yn chwarae rhan amlwg yn y calendr ysgol a bydd cyfleoedd i berfformio’n offerynnol a lleisiol ar achlysuron arbennig. Mae’n arferiad i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac yn 2018 bu parti bechgyn yr ysgol yn cystadlu yn yr eisteddfod genedlaethol yn Llanelwedd. Cynhaliwyd cyngerdd Nadolig llwyddiannus gyda dros 100 o ddisgyblion yr ysgol yn cymryd rhan. Mae côr yr ysgol yn ddiweddar wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd cymorth cristnogol ym Mhwllheli ac mewn cyngerdd yn Neuadd Dwyfor.
Y Gymraeg
Croeso i’r adran!
Staff
Miss Bethan Williams – Pennaeth yr adran
Mrs Siwan Roberts – Ail yn yr adran
Mrs Glain Thomas / Mrs Iona Hughes
Mrs Mererid Llwyd ( Blynyddoedd 10 – 11 yn bennaf)
Ein nod yw ceisio sicrhau fod y disgyblion yn mwynhau astudio’r pwnc a hybu eu hymwybyddiaeth fod y Gymraeg yn bwysig a pherthnasol, ei bod yn rhan naturiol o’n bywydau ni yma ac y dylid ei pharchu a’i defnyddio. Gobeithiwn ein bod yn annog y disgyblion i wneud eu gorau bob amser ac i ymfalchïo yn eu gwaith.
Themâu a astudir yn y gwahanol flynyddoedd
• Fy nghynefin a thu hwnt – Blwyddyn 7
• Fy myd i ac eraill - Blwyddyn 8
• Bywyd Pobl ifanc – Blwyddyn 9
• Pigo Cydwybod / Cymru a Chymreictod / Natur a Dynoliaeth / Ieuenctid – Blynyddoedd 10 + 11
Gwybodaeth fanylach am Gyfnod Allweddol Tri
Cawn bedair gwers yr wythnos ym mlynyddoedd 7 + 9 a thair gwers ym mlwyddyn 8. Bydd y disgyblion yn cwblhau eu gwaith mewn
• llyfr Cymraeg;
• ffeil ddarllen;
• ffeil farddoniaeth.
Tasgau Llafar
O holi disgyblion am eu hoff dasgau llafar, ar y brig yn gyson daw’r cyfleoedd a gânt i baratoi amrywiol gyflwyniadau ynghyd â’r cyfleodd cyson sy’n codi i fynegi barn ar bob math o bynciau llosg.
Tasgau Darllen
Un arall o’n hamcanion fel adran yw ceisio meithrin agwedd gadarnhaol at lyfrau. Er mwyn datblygu gwahanol sgiliau darllen rhoddwn bwyslais ar bethau megis dewis a darllen ffuglen a llyfrau gwybodaeth o’r llyfrgelloedd dosbarth sy’n bodoli ym mhob un o’r ystafelloedd Cymraeg, bod yn aelod o banel sy’n ateb cwestiynau am lyfrau, ymchwilio i hanes beirdd lleol yn ogystal ag astudio amrywiaeth o gerddi.
Rhai beirdd lleol a chenedlaethol yr edrychir ar eu hanes a’u gwaith |
Awduron poblogaidd ymhlith y disgyblion |
Cyfresi poblogaidd ymhlith y disgyblion |
Robert ap Gwilym Ddu + Dewi Wyn |
Emily Huws |
Cyfres Strach |
Cynan |
T. Llew Jones |
Cyfres yr Onnen |
Gwyneth Glyn |
Bedwyr Rees |
Cyfres ar Bigau |
Myrddin ap Dafydd |
Mair Wynn Hughes |
Cyfres Pen Dafad |
R. Williams Parry |
Elin Meek |
Cyfres Whap |
Mathau o gerddi a astudir |
Bethan Gwanas |
Cyfres y Dderwen |
Cerddi penrhydd |
Gareth F Williams |
A llawer mwy ! |
Baledi |
Elgan Phillip Davies |
|
Sonedau |
Caryl Lewis |
|
Englynion a chywyddau |
![]() |
Caiff rhai disgyblion gyfle i fod yn rhan o’r grwpiau darllen boreol sy’n rhoi pwyslais ar hybu sgiliau darllen ar goedd a dealltwriaeth o ddarllen. Dyma lun o griw brwdfrydig un o’r grwpiau darllen |
Tasgau Ysgrifennu
Amcan arall yw datblygu sgiliau ysgrifennu creadigol a ffeithiol y disgyblion drwy roi cyfleoedd cyson iddynt ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau megis ymson, dyddiadur, adroddiad, araith, stori, cerdd, portread a.y.b. Hybwn y defnydd o dechnoleg gwybodaeth drwy sicrhau cyfleoedd i’r disgyblion gael defnyddio’r cyfrifiadur i gwblhau a chyflwyno rhai tasgau a defnyddio’r we er mwyn ymchwilio.
Gwybodaeth am Gyfnod Allweddol Pedwar
Cawn bedair gwers ym mlwyddyn 10 a phedair ym mlwyddyn 11. Bydd mwyafrif helaeth y disgyblion yn dilyn y cwrs Cymraeg ( Iaith ) a’r cwrs Llenyddiaeth Gymraeg gan fod hyn yn arwain ar ddau gymhwyster ar ddiwedd blwyddyn 11. Cyd-blethir
• tasgau dan reolaeth ysgrifenedig
• tasgau dan reolaeth ar lafar / arholiad llafar
• gwaith y papurau arholiad
yn ystod y ddwy flynedd.
Gweithgareddau allgyrsiol
Cefnogwn Eisteddfodau, cystadlaethau llenyddol, y papur bro a radio’r ysgol . Anogwn y disgyblion i gystadlu mewn amrywiol gystadlaethau lleol a chenedlaethol. Mae’r pwyslais yn amlwg ar gefnogi Eisteddfodau lleol megis Chwilog, Y Ffôr, Penrhyndeudraeth yn ogystal â’r Urdd. Yn ddiweddar, bu cryn ddathlu wrth i ddisgyblion o wahanol flynyddoedd ddod i’r brig yn yr holl Eisteddfodau uchod ynghyd â chystadleuaeth tlws coffa’r brodyr Wil Sam ac Elis Gwyn Jones a drefnir gan bapur bro’r Ffynnon. Yn ogystal rhoddwn y gefnogaeth angenrheidiol i griw o Gyfnod Allweddol Pedwar fod yn gyfrifol am lunio tudalen yr ysgol yn fisol yn Llanw Llŷn ac i griw arall gynnal rhaglenni ar radio’r ysgol yn ystod amseroedd cinio.
Dyma lun o griw bywiog o flwyddyn 9 fu’n gweithio’n galed ar gystadleuaeth y cywaith ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2012, a lluniau o flwyddyn 7 wrthi’n brysur yn cyd-weithio mewn grwpiau ar dasg ar gyfer y ffeil farddoniaeth.
Gwybodaeth yn dod yn fuan
Gwybodaeth yn dod yn fuan
Gwybodaeth yn dod yn fuan
Gwybodaeth yn dod yn fuan
The English Department
We are a well established department consisting of five members of staff working together to offer a wide range of experiences for the pupils of Ysgol Glan Y Môr. As well as providing lessons that deliver the needs of the curriculum we also aim to provide pupils with a rounded experience of school life through a range of extra- curricular activities. We share in the running of reading and writing clubs and arrange trips and workshops that develop pupils’ interests in the subjects.
The key aim of our department is to develop essential skills whilst encouraging enjoyment and participation for all pupils at all levels.
Gwybodaeth yn dod yn fuan