Home > News > Latest News > Hen Alawon Newydd
Welsh only available...
Eleni, penderfynodd ysgolion dalgylch Glan-y-Môr, gydweithio ar brosiect er mwyn creu geiriau newydd ar hen ganeuon neu alawon. Y bwriad oedd plethu'r hen a'r newydd, a byddai cyfle i'r disgyblion ddysgu mwy am hanes a chefndir y caneuon gwreiddiol, yn ogystal â chreu fersiwn newydd eu hunain o'r gân.
Roedd angen i'r geiriau newydd ddathlu'r filltir sgwâr. Roedd yn gyfle hefyd i'r disgyblion fod yn falch o'u Cymreictod.